Y gyfrol Gymraeg gyntaf i'w gosod ar y we fyd-eang - Rhagfyr 1996.

Robin Llwyd ab Owain: y bardd cyffrous

Enw gwreiddiol y gyfrol oedd 'Rebel ar y We'.
Newidiwyd 22 Mai, 2006.

Caneuon   Cerddi   Adref

 

Portread
Mae'r wefan hon bron yn:
12 oed !

Cyfrol o gerddi

www.barddoniaeth.com
gan y rebel
robin llwyd ab owain

'Tra bo dau bydd trwbadwr...'

Cartref

Portread Cerddi Dyfyniaidau Y Seler Diarhebion


Barddoniaeth Cymraeg; y gyfrol gyntaf i'w rhoi ar y we fyd-eang; Rhagfyr 1996.

Y Gymraeg

"Iaith drydan, ddiwahanod, - degawdau
Digidol, iaith barod
Am un dydd rhwng mynd a dod
Yn dadweindio Prydeindod."

 

Yn fyr:  

Ganwyd:

Cynwyd, Corwen, ble mae Eirian fy ngwraig yn dysgu. Mae pob cylch yn troi yn tydy?
Gwaith: Prif bensaer safleoedd gwe Cyfrifiaduron Sycharth (ers 2000); prynu, datblygu a gosod tai, siopau ac eiddo eraill er mwyn eu gosod i Gymry lleol.

Dyddiad Geni:

Chydig cyn y chwedegau.

Addysg:

Ysgol Gymraeg Sant Paul, Bangor (hyd at 1968); Ysgol O M Edwards, Llanuwchllyn (1968 - 1969); Ysgol Troed y Bryn, Tywyn, Merionnydd (1969 - 1970); Ysgol Uwchradd Tywyn (1970 - 1976); y Coleg Normal, Bangor (1976 - 1979).

Priodi:

Priodi Eirian (nee Morris), Llantysilio, Llangollen ym Mawrth 1989. Ffindio fy angor.

Plant:

Gwern (ganwyd 1990) ac Erin (1993).

Rhieni:

Eira Owain (nee Lloyd) yn wreiddiol o Ben-bre, Llanelli ac Owain Owain (yn wreiddiol o Bwllheli).
Hoff feirdd: Sion Aled, Iwan Llwyd, Peredur Lynch, Tudur Dylan, Ceri Wyn Jones, Tilsli, Ynyr Williams, Waldo, Saunders, Marc Lloyd Jones, Alan Llwyd, Ifor ap Glyn a Dic Jones.

Cyhoeddi:

Rebel ar y We, Cyhoeddiadau Sycharth, 1996; Gwin Beaujolais, Gwasg y Lolfa, 1991; Ceidwad y Gannwyll, Gwasg y Lolfa, 1995; Iarlles y Ffynnon, Gwasg y Lolfa, 1997. Tair Drama Saunders Lewis (2000, ACCAC). Does gen i ddim awydd cyhoeddi fy ngwaith ar bapur; da ni'n tori gormod o goed i lawr heb i mi fod yn rhan o'r cynllwyn...

Cas bersonau:

Bill Gates,  Rod Richards, George Thomas, Ian Paisley, beirdd pologaidd V Vawr, George W Bush a fi fy hun.

Hoff win:

Unrhywbeth gydag wmff y dderwen neu'r ysgawen yn gry' drwyddo.

Cas win:

Vouvray, Beaujolais a phlonc Loir.

Hoff eiriau:

Stwnsian, bethma, rwts, denim, ffractaliaeth, geneteg, petheuach

Cas eiriau:

Y werin, gwerinol, polis, gwasgod, calciwletar, fi, bys Crosville a Santa Clos.

Hoff gerddoriaeth:

Dafydd Iwan, Beethoven, Brahms, Verdi, Meic Stevens ....

Cas bethau:

Beirniaid llenyddol sy'n  beirniadu (neu frolio'r) bardd yn hytrach na'i sgwenu. Hefyd: smwddio; dyblu'r 'n' a gorfod rhoi to-bach ar waith plant yr ysgol ers talwm. Cyhoeddwyr Cymraeg nad ynt yn rhoi eu llyfrau ar y we AM DDIM. Y Cyngor Llyfrau am ymladd mor galed yn y blynyddoedd cynnar YN ERBYN technoleg gwybodaeth a'r we, ac felly'n llesteirio twf y Gymraeg.

Ers 1991 mae Robin wedi gwrthod cyfweliadau am ei waith fel bardd a'i waith dyddiol gyda phob sianel radio a theledu oherwydd: 'mae nhw'n rhy Americanaidd, yn rhy Saesnigaidd ac yn gwbwl anigonol. Does dim angen S4C a Radio Cymru arnom bellach; mae pob bardd a llenor yn sianel ynddo'i hun, yn gyhoeddwr ynddo'i hun drwy gyfrwng y we.'

Nid yw'n dymuno dyblu'r 'n' a'r 'r' yn ei  waith oni bai fod angen gwneud hyny i wahaniaethu: rhwng ystyr 'tonau' a thonnau er enghraifft.

Mae'n llysieuwr ers iddo fod yn wyth oed er iddo droi'n garnifor yn y coleg "gan imi fynd i edrych yn dena fel croen rhech!"

Dyma ymateb y bardd i Jennie Eirian pan ofynodd iddo am 'dipyn o hanes eich magwraeth a'ch cefndir.' yn Y Faner, Awst 31, 1979:

"Nid oes gennyf 'fro fy magwraeth' fel y cyfryw, oherwydd i mi symud yn aml o fro i fro gyda'r teulu... Os unlle, Gwynedd yw bro fy magwraeth ac yn bendant hi sydd agosaf at fy nghalon! I Ysgol Uwchradd Tywyn yr euthum gyda Maldwyn Davies yn creu diddordeb ynof tuag at Lenyddiaeth Gymraeg. Fe'm hysgogwyd gan Robat Jones, Chwilog ac Alan Llwyd i ymhel a'r cynganeddion; i goroni'r cyfan, prynodd fy nhad bentwr o lyfrau'n ymdrin a'r gynghanedd. Hyn oll a 'm hysgogodd i sgrifennu fy nghywydd cyntaf - "Y Tractor" - ar gyfer Eisteddfod yr Urdd, noson cyn fy Arholiad Lefel A Cymraeg! "

Erthygl ar Robin Llwyd yn y cylchgrawn Pais

 

horizontal rule

 

 

Defnyddio'r gwaith:     Gallwch ddefnyddio'r cerddi i'w hadrodd neu eu canu fel cystadleuaeth eisteddfod, ar radio neu deledu heb ganiatad yr awdur.
Dylid, nodi ffynhonell y cerddi, ond nid y caneuon, fel www.barddoniaeth.com.
Hawlfraint y cerddi a'r safle: (oni nodir yn wahanol): Cyfrifiaduron Sycharth, Mehefin, 1996 - 2008. Cedwir pob hawl.
Caniateir islwytho'r testun i un cyfrifiadur yn unig. Caniateir gwneud un copi caled ar gyfer eich defnydd chi yn unig. Ni chaniateir gwerthu na ffeirio na benthyg unrhyw ran o'r testun na'i drosglwyddo mewn unrhyw fodd i unrhyw berson neu bersonau arall heb ganiatad ysgrifenedig y cyhoeddwr yn gyntaf. Erlynir y diawled diegwyddor sy'n torri'r amodau hyn mewn llys barn.