Y gyfrol Gymraeg gyntaf i'w gosod ar y we fyd-eang - Rhagfyr 1996.

Robin Llwyd ab Owain: y bardd cyffrous

Enw gwreiddiol y gyfrol oedd 'Rebel ar y We'.
Newidiwyd 22 Mai, 2006.

Caneuon   Cerddi   Adref

 

Olion Traed: Nodiadau
Mae'r wefan hon bron yn:
12 oed !

Cyfrol o gerddi

www.barddoniaeth.com
gan y rebel
robin llwyd ab owain

'Tra bo dau bydd trwbadwr...'

Cartref

 

OLION TRAED

Casgliad o gerddi a sgwenwyd dros ddeg mlynedd yn dilyn marwolaeth tad y bardd. Dyma ychydig o nodiadau gan Robin:

 
Nodyn 1:
Safle Owain Owain ar y We

 

Nodyn 2:
Cyfeiria'r gerdd at gerdd olaf i Owain Owain ei sgwenu - cerdd a gyhoeddwyd yn Y Gwyliedydd (gol Owain Owain) Hydref 1989. Ailgyhoeddwyd y gerdd yn rhifyn 67 o'r Gwyliedydd (gol: Angharad Tomos) - rhifyn Chwefror / Mawrth 1994. Dyma hi yn ei chrynswth:
 
Hyd draethell hanes
myrdd
yw'r rhai fu'n troedio.
A rhwng eu llanw a'u trai
gwelid olion eu traed
yn y tywod llaith
Ond - bob tro -
deuai llanw arall 
gan chwalu'r olion traed
yn ddim.
Olion bob troed -
ond un.
A'r olion hynny
(o Alffa'r Cread i Omega'r diwedd)
yn gadarn eu ffurf
a digymrodedd eu cyfeiriad.
Nid unrhyw storm
nac ymchwydd na phenllanw cryf
allasai'u chwalu.
Dim.
Oherwydd dwfn oedd yr olion -
a'u dyfnder yn fesur clir
o drymder y llwyth a gariai:
trymder dy bechod di a fi,
yn rhoi i'r olion traed eu tragwyddol le.
 
Nodyn 3:
Do, mi ges inau fy nihangfa meddwol, am ychydig amser.
 
Nodyn 4:
Darllener llyfr y Cymro a'r gwyddonydd disglair Steven Jones ar eneteg; mae cyfrinach ein marwolaeth i'w gael yn ein genynau a chyn hir byddwn yn gwybod holl ddirgelion ein cromosonau - a hyd ein heinioes! Bron nad oes fawr ddim yn gyfrinach bellach. Yn yr un modd, gallwn olrhain hanes ein pobol drwy ein genynau ni, heddiw. Efallai rhyw ddydd y byddwn hefyd yn medru gweld beth oedd lliw gwallt ein hen-hen Nain, maint trwyn ein hen-hen-hen Daid, meddyliau ein hen-hen-hen-hen-hen Nain a'i bywyd cyfan yn ffilm rhithwir ym mhob cell ohonom.
 
Nodyn 5:
Yn y byd sydd ohoni, os na allwn weld rhywbeth, tydy o ddim yn bod. Y synwyr cryfaf, trechaf, ysywaeth ydy gweld. Tydy'r erchyllterau ddim wedi digwydd yn Kosova ac yn Lebanon heb i ni WELD y sgerbydau a'r cnawd. Rydym yn gaeth i dystiolaeth GWELEDOL, bellach, diolch i'r teledu.
 
Nodyn 6:
Digwyddiad go iawn gyda'r hen gyfrifiaduron Acorn tua 1987, er nad 'temp' oedd enw'r ffeil yr adeg hono! Cymharer y gerdd hon gyda Traeth Lafan a Pan Ddaw Gwyddonwyr Fory. Oddeutu 1983 arferai fy nhad a minnau greu ffractalau mathemategol ar y cyfrifiadur, a chofiaf yn iawn y wefr o weld canghenau oddi fewn i ganghenau oddi fewn i ganghenau  a bydoedd o fewn i fydoedd o dragwyddoldeb hyd tragwyddoldeb - ar y sgrin.
Roedd tori'n rhydd o gonfensiynau marmor 'y cyfryngau' ceidwadol - y llyfr papur a'r bedair sianel seisnig - yn hanfodol. Creu cyfrwng amgen (yn enw Cyfrifiaduron Sycharth) drwy ddisg-fflopi yn gyntaf ac yna ar CD-ROMiau ac yna'r we fyd-eang, gan geisio gwthio'r Gymraeg y tu hwnt i'r ffiniau arferol. Tristwch mwyaf Cymru ar ddiwedd mileniwm dau oedd amharodrwydd ei gweisg papur i symud at dechnoleg arall, Technoleg Gwybodaeth, ar wahan i rai blaenllaw megis Gwasg y Lolfa.
Mae yn y gerdd hefyd gyfeiriad at fy nhad, fy nghydwybod, a thad arall i mi, am wn i, fy Nuw.
 
Nodyn 7:
Yr Allt Fawr: darllener y stori fer Mwyar Awst (Amryw Ddarnau, Cyhoeddiadau Modern Cymreig, 1968) tudalen 4. Mae dwy gyfrol gyntaf Owain Owain ar y we (am ddim!). 
 
Nodyn 8:
Bu farw fy nhad ar 19.12.93. Ar yr union awr, roedd Gwern yn fachgen 3 oed ac yn fugail yn Nrama'r Geni, Capel Bathafarn, Rhuthun. Mae yma hefyd gyfeiriad i gerdd a sgwennodd:
 
Nodyn 9:
 
Cyhoeddwyd yn 23.12.65
Teitl y gerdd:
Gwyl y Geni
Cyhoedwyd yn:
Y Cymro (rhifyn Nadolig)
Ad-argraffwyd yn Bara Brith (1971), Cerddi Ddoe a Fory (1977) ac yn Llyfr y Nadolig Cymreig (gol. Ifor ap Gwilym; Christopher Davies; 1980).
Mae'n rhyfedd fel y ceisiwyd efelychu'r gerdd 'Gwyl y Geni' flynyddoedd wedyn gan Gwyn Thomas!
Y Dydd Olaf: nofel a sgwenodd fy Nhad; cyhoeddwyd gan Wasg Christopher Davies, 1976. Yn y broliant i'r nofel, dywedodd Pennar Davies, 'Yn Y Dydd Olaf cawn ddyn a fyn gadw ei enaid yn rhydd a'i feddwl yn annibynol hyd y diwedd. Ni welwyd dim byd tebyg i'r llyfr hwn yn ein hiaith o'r blaen, na dim byd hollol debyg mewn unrhyw iaith. Llawenhewn fod y math yma o ddisgleirdeb yn bosibl yn y Gymraeg.'
 
Nodyn 10:
Mae nifer o'r cerddi'n ein hatgoffa'n fwriadol o gerddi eraill. Un o arwyr fy Nhad oedd Saunders Lewis. Mae'r gwpled ola'n ein hatgoffa o linell ganddo 'Rhodd enbyd yw bywyd i bawb.' Mae'r linell 'Rhodd enbyd bywyd yw'r bedd' yn ei throi ar ei sowdwl ac yn ei chicio yn ei thin.
Mae'r gair cyrch yma'n cyfeirio at ran o gerdd gan fy Nhad o'r enw Amser
'Nid tad yw tad ar lan bedd.'
Fel Gwyn Thomas, bu  Gerallt Lloyd Owen hefyd yn benthyg llawer o ranau o gerddi  Owain Owain. Cymharer y gerdd Amser, Owain Owain a sgwennwyd yn Ebrill 1965 a'r awdl Afon, gan G Ll O, a sgwennwyd ddeg mlynedd yn ddiweddarach, er enghraifft. Mae'r englyn hwn, hefyd, yn troi englyn o waith Gerallt ar ei sowdl ...
 
Nodyn 11:
Defnyddir cynghanedd gadwynog bron drwy gydol y gerdd. Arbrofais a hi gyntaf ar ddechrau'r wythdegau.
 
Gwenwn a chalon gynes   Traws
Gwenwn a chalon gynes  a gwenwn ganwaith,   Sain
a gwenwn ganwaith, A gwenwn ganwyll Croes
A gwenwn ganwyll olau uwch dy angau di Sain
Gwenwn am iti gynau ynom eto Croes
dy angau di;  Gwenwn am iti gynau ynom eto Sain
gynau ynom eto Ganwyll Draws
Ganwyll, ac eto gwenwn  Draws
ac eto gwenwn er na welwn hi          Sain
er na welwn hi. Gwenwn oherwydd gonest Sain
ayb
Yn ol i'r gerdd Tywod

 

 

horizontal rule

 

 

Defnyddio'r gwaith:     Gallwch ddefnyddio'r cerddi i'w hadrodd neu eu canu fel cystadleuaeth eisteddfod, ar radio neu deledu heb ganiatad yr awdur.
Dylid, nodi ffynhonell y cerddi, ond nid y caneuon, fel www.barddoniaeth.com.
Hawlfraint y cerddi a'r safle: (oni nodir yn wahanol): Cyfrifiaduron Sycharth, Mehefin, 1996 - 2008. Cedwir pob hawl.
Caniateir islwytho'r testun i un cyfrifiadur yn unig. Caniateir gwneud un copi caled ar gyfer eich defnydd chi yn unig. Ni chaniateir gwerthu na ffeirio na benthyg unrhyw ran o'r testun na'i drosglwyddo mewn unrhyw fodd i unrhyw berson neu bersonau arall heb ganiatad ysgrifenedig y cyhoeddwr yn gyntaf. Erlynir y diawled diegwyddor sy'n torri'r amodau hyn mewn llys barn.