Y gyfrol Gymraeg gyntaf i'w gosod ar y we fyd-eang - Rhagfyr 1996.

Robin Llwyd ab Owain: y bardd cyffrous

Enw gwreiddiol y gyfrol oedd 'Rebel ar y We'.
Newidiwyd 22 Mai, 2006.

Caneuon   Cerddi   Adref

 

Yn Llygad y Llew
Mae'r wefan hon bron yn:
12 oed !

Cyfrol o gerddi

www.barddoniaeth.com
gan y rebel
robin llwyd ab owain

'Tra bo dau bydd trwbadwr...'

Cartref

Brenin y Ser Yn Llygad y Llew Pedair Oed Er Hwylio'r Haul... Un Enaid Bach Cana o dy Galon

 
Yn Llygad y Llew

Mae'r ser yn ein nos fel arwyddion
Yn dangos y llwybyr trwy'r waen:
A'r ser yw arwyddbyst ein fory,
Mae nhw'n gwybod beth sydd o'n blaen.
Mae nhw'n gwybod pob gair cyn ei adrodd
A phob un symudiad a wnawn,
Mae nhw'n gwybod pob hunllef a breuddwyd,
Pob uffern a hunllef a gawn.

Yn llygad y llew a'r pysgodyn,
Yng nghrafanc y Forwyn,
Ym mhigiad hen sgorpiwn y rhod,
Rhwng deugorn y Tarw a'i dymer a'r Saethwr:
Dyw rhyddid ddim bellach yn bod.

Rwyt byped yn nwylo'r planedau,
Mae rheiny yn arwain dy droed
I ddilyn ol traed yn y tywod:
Ol traed a fu yma erioed.
A phob rhyw symudiad a wnaethost,
Pob gair, a phob tro ar dy daith,
Yw'r fflam yn y llygaid tywyll,
Yw'r ffilm yn y llygad llaith.

 

Yn llygad y Llew...

 

Cantorion:

 


Cor Rhuthun
Cerddoriaeth gan: Robat Arwyn
Cryno Ddisg: Sain (Recordiau) Cyf - SCD2339
www.sain.wales.com
Hawlfraint: Robat Arwyn, Robin Llwyd ab Owain a Curiad
Copiau o'r llawysgrif - ar werth oddi wrth gwmni Curiad

horizontal rule

 

 

Defnyddio'r gwaith:     Gallwch ddefnyddio'r cerddi i'w hadrodd neu eu canu fel cystadleuaeth eisteddfod, ar radio neu deledu heb ganiatad yr awdur.
Dylid, nodi ffynhonell y cerddi, ond nid y caneuon, fel www.barddoniaeth.com.
Hawlfraint y cerddi a'r safle: (oni nodir yn wahanol): Cyfrifiaduron Sycharth, Mehefin, 1996 - 2008. Cedwir pob hawl.
Caniateir islwytho'r testun i un cyfrifiadur yn unig. Caniateir gwneud un copi caled ar gyfer eich defnydd chi yn unig. Ni chaniateir gwerthu na ffeirio na benthyg unrhyw ran o'r testun na'i drosglwyddo mewn unrhyw fodd i unrhyw berson neu bersonau arall heb ganiatad ysgrifenedig y cyhoeddwr yn gyntaf. Erlynir y diawled diegwyddor sy'n torri'r amodau hyn mewn llys barn.