Y gyfrol Gymraeg gyntaf i'w gosod ar y we fyd-eang - Rhagfyr 1996.

Robin Llwyd ab Owain: y bardd cyffrous

Enw gwreiddiol y gyfrol oedd 'Rebel ar y We'.
Newidiwyd 22 Mai, 2006.

Caneuon   Cerddi   Adref

 

Plonc
Mae'r wefan hon bron yn:
12 oed !

Cyfrol o gerddi

www.barddoniaeth.com
gan y rebel
robin llwyd ab owain

'Tra bo dau bydd trwbadwr...'

Cartref

 

Y Seler

Cornel y Plonc

(Y cerddi hyny, bellach, a ddiarddelwyd gan y bardd.
Efallai y byddai ambell berson megis Tony Bianchi yn mynu rhoi'r cyfan o waith y bardd yn y Seler!

Yr Actor   (Cymru'r Plant, Chwefror 1972)
Trychineb Wedi'r Trai   (Y Faner, 1973)
Gobaith  (Y Faner, 4 Ebrill, 1975)
Yr Wylan   (Barn, Ebrill 1976)
Marwnad Emyr Lewis   (Llythyr heb ei gyhoeddi, 1976)
John Jenkins   (Barddas, Rhagfyr 1984)
Mae 'Di Canu!   (Cyhoeddwyd yng nghyfrol goffa Jennie Eirian, sef 'Cofio' )
Mam   (1979; Gwyl Gerdd Dant Dinbych)
Mewn Byd Heb Ryfeloedd   (Y Faner, 8 Mai, 1985)
Hunllefain   (7 Ionawr, 1991; Barddas, Chwefror, 1991)
Deffra Seithenyn   (Graffiti HTV, Medi 1989, Y Bedol, Tachwedd 1990)
Rhyfeddod!   (Barddas, Ebrill 1992)
George Thomas   (ddiwrnod ei farwolaeth)
I'r Cyhoeddwr Hwnw   (Ar y we; 2000)
 

Yr Actor

Ddoe - mewn cwmni actio -
Roedd o mewn carchar llwm
Tu ôl i'r barau duon
A'r cerrig llwydion trwm.

Ond heddiw mae o'n frenin
Ar Asia fawr i gyd,
Ei ddynion ydy'r dewraf
O filwyr yr holl fyd.

A fory bydd yn actio
Hen glown â bochau coch
Neu sipsi bychan tenau
Yn bwyta cibau'r moch.

Ni hoffwn fod yn actor
Yn actio pob rhyw ddyn;
Ni fyddai gennyf amser
I fod yn fi fy hun.



 

horizontal rule

 

Trychineb Wedi'r Trai

Perfedd nos - dyfnder yr anfeidrol.
Tywyllwch
heb olau lleuad i ymbalfalu drwyddo
a'i droi yn feidrol, bas.

Ond yna,
ar orwel amser,
mae'r haul yn araf godi
y goleuni'n deffro
a seren unig yn herio'r dydd;
glaswellt yn swatio dan fantell denau
y bore amrwd
yn nhrwmgwsg bregus y munudau prin.

Cilia'r tarth
oddi ar wyneb y meysydd
gan adael enfys o obaith
ar y dafnau gwlith.
Deffrodd natur
i fyw eto
hunllef halogiad
cymynrodd dyn.




 

horizontal rule

 

Gobaith

Craith erchyll a'i hagrwch cain -
Crych anobaith ar ol drain,
Brath y bicell yn agendor coch
A rhwnc angau yn ddistawrwydd croch.

Cenedl yn ceulo fel Crist ar Groes
A'i hiaith yn amdo i greithiau'r oes.
Mae cistfaen fenthyg yn aros y celain
Ac un maen mud yn adlef i'r llefain.

Ond wedi'r galar daw'r trydydd dydd
A'i fywyd newydd, a'i newydd ffydd.
Rhown heibio anobaith - ni fydd yn hir
Cyn gwelwn ddefro y blagur ir.


horizontal rule




Yr Wylan

(Cyhoeddwyd yn Barn; un o'r englynion cyntaf i'r bardd hwn ei gyhoeddi)

Mor glaerwyn dy benwynni - yr ellyll
Ar rwyllog glogwyni.
Wynned hen a luniwyd di
O'r halen yn yr heli?



 

horizontal rule

 

Cywydd Dychan Emyr Goch, 1976

(Cywydd dychan rhwng Emyr Lewis a Robin Llwyd ab Owain pan oedd y ddau yn las-lanciau.
Danfonodd Robin y cywydd canlynol at Emyr:

Marw wnaeth ein Hemyr ni,
Ni allaf fyw o'i golli!
Mae Gwalia am ei galon,
O, mor brudd yw'r marw, bron!
Hwn y coch reit o'r cychwyn
Ond fel saeth fe ddaeth yn ddyn
A llunio ambell linell
O Wlad Gaul ni chlywyd gwell.
Emyr? Nid ydyw yma,
Hen fan goch aeth fewn i'w gar
A'i yrru mewn cynddaredd
I'r byd y tu draw i'r bedd...

Emyr, O dywed imi,
Ai'r bedd yw dy ddiwedd di?
A fwyti y pryfetach?
Ai da cynghanedd dy ach?
Tybed beth yw'r atebion
Arwr dyn tu draw i'r don?
Ar hast, anfon air drwy'r hin
Yr Abad.
Hwyl fawr,
Robin.

Atebodd Emyr yntau gyda'r cywydd canlynol:

 

 

horizontal rule

 

John Jenkins

(Eilwaith yng Ngharchar y Sais)

Rhoed iddo i wario'n wirion - ei febyd
Fel rhyw fab afradlon;
Bu hen friw yn byw'n y fron,
Fe drig eilwaith drwy'r galon.
Ffoi o'r hil heb ffarwelio - na rhoi trem
Ar y traeth digyffro,
Ar hir daith eilwaith aeth o,
Eilwaith ni fedrwn wylo.
Gwibiodd ar briffordd gobaith - a gyrru
I gaer o ddichellwaith;
Yn hwyr y dydd aeth ar daith
Wylaf, ni wylaf eilwaith.
I ddwy flynedd fileinig - o oedi
Dedfrydwyd pendefig
A gwn na chaiff fory gig
Na gwaed run llo pasgedig.
Ni'r afradlon estroniaid - a welaist,
Ni yw'r hil ddilygaid;
Rhoddaist law i'r llaw'n y llaid
A dihunaist ei henaid.
Hir-wynebu'r anobaith - yw dy ran,
Ond a'r Wawr ar ymdaith.
Af innau'n awr ar fy nhaith,
Wylaf ac wylaf eilwaith.

 

horizontal rule

 

Mae 'Di Canu!

(Cerdd i blant oed cynradd)

Gadewch eich nag a dewch yn awr
I brofi ias y sgubor fawr:
Dau lygad tywyll cudyll coch
A'i acen gras yn canu'n groch.
Goruwch ei ben - dwy regen yr yd
Anwyla draw eu ffidlau drud
A buan dawr i ben y das
Gywynen ber i ganu bas.
Mae'r wydd dew, dew, sydd mor ddi-don
Yn cosi'i phig a'r sacsaffon;
A golau'r ddawns, drwy siawns bid siwr,
Yw deg magien hen ddi-stwr.
Ar lorpiau'r cart - tri ffwlbart ffol
A'u daws pync-roc a'u roc-a-rol,
Ac ar ryw drawst yn curo'r drwm -
Hen loyn byw a chwilen bwm.
Ond ust! Dim smic! Daeth gwaed y wawr!
Ar ddol mae ol y llwynog mawr!
A'u diwedd hwy fydd diwedd hynt
Y gwyr a aeth i Gatraeth gynt.
 

horizontal rule

 
 

Mam
(Canwyd yn yr Wyl Gerdd Dant yn Ninbych 1979.)

Dyfynwyd nifer o'r llinellau hyn ar gerig beddau led-led Cymru dros y blynyddoedd.
Gobeithiwn ychwanegu lluniau ohonynt ar y safle cyn hir! Cyhoeddwyd hefyd gan y bardd ar ffurf 'cerddlun'.

Ei gwên yw'r awel gynnes - a gwyn fyd
        ei gwên fach, ddirodres;
yn ei grudd mae cochni gwres
y wên sy'n hyn na hanes.
Gwnewch i'r angylion farddoni - a'i roi
ar awen da Vinci,
urddwch y wawr â'r cerddi -
a dyna Mam, fy Mam i!
Môr o heddwch im roddodd - yn nhonnau 
ei henaid fe'm carodd,
môr o rin - a mwy a rodd,
yn ei llanw fe'm lluniodd.
O'i derwen un fesen wyf fi - wreiddiodd
ym mhridd y ffrwythloni,
heddiw rhof ddiolch iddi -
mwy na mam fu Mam i mi.
Nid ei chur ond ei chariad - nid ei gwg
ond ei gwên a'r teimlad,
pa rodd fel gwir ymroddiad?
Pa rym fel mynnu parhad?
Hi yw 'ngwên er fy ngeni - hi yw'r tân
a'r tes nad yw'n oeri!
Ond er nerth y coelcerthi
trodd y fflam o Mam i mi.
 

horizontal rule

 
 

Mewn Byd Heb Ryfeloedd

(Gwobr yr Academi Gymreig, 1985. Detholiad)

Y Bardd:
Yn noddfa'r amgueddfa -
Aderyn gwyn di-gan,
Mewn cawell hen, pellennig
O wae'r tafodau tan.
I gof daw'r addoldy fel llun ar deledu
A storom o gablu a phechu rhyw ffwl,
Y dyrfa a'u sorod fel haid o wylanod
A'r duwdod a'i gymod tan gwmwl.
Hyd barthau'r Malfinas yr hwyliodd y syrcas
I fwrw galanas ag urddas y gau,
A choelcerth o chwerthin oedd machlud Mehefin
Ar wefl y gorllewin yn lliwiau!
Yr Hwn a ddyrchefir yw'r Duw nid adweinir;
Rhwng crindir a chrastir fe genir ei gan.
Mae'ch crefydd ysmala fel buwch heb ei gwala
Ar waelod yr wtra yn loetran.
A chrefydd anghyson y plastig barchusion
Sy'n peri amheuon yn ffynnon fy ffydd.
Ai d'wyllus a wnelent? I'r diafol yr aethent
A phydrent ym mynwent f'ymennydd.
A thrwy ddifaterwch eich llugoer dawelwch
Grym niwclear dderbyniwch -anialwch fy nydd.
Mae'r allor atomig i chwi'n gysegredig -
Llo aur etholedig y gwledydd!
Yr Hen Wr:
Nid ydyw Duw mor dawel
Na phell, wr ifanc, ffol -
Anadla drwy'r fanhadlen
A'r dderwen ar y ddol,
Teilwria'r fedwen arian
A'r sidan yn ei siol.
Digon i'r diwrnod ei gymhlethdodau
A'i ddrwg ei hun i'r dyn mewn cadwynau.
Teilwriodd bentalarau'r dyfodol,
Dwyfol-ymorol am ein tymhorau.
Y Bardd:
Grym meicron o bliwtoniwm
A'n dwg o'th gomedi
I'r byd o ysgerbydau
A staen ei drasiedi.
Eiliad o swrealaeth:
Cyfog, triog, traed...
Meirioli mae marwolaeth
Yn gawl o gig a gwaed.
Ar balmat anrhamantus
Mae'r dydd yn cymryd hoe,
Di-wyneb mwy'r hen slebog
Oedd ddau-wynebog ddoe.
Y baban gwan nas ganwyd
A rannwyd cyn ei rawd,
A'r diawl sy'n canu'r delyn
Wrth gnoi y groth o gnawd.
Oedi mae'r hen weinidog
Ar hyn, ym medd-dod gwres;
Di-fedd, di-wedd, di-weddi
Yw'n toddi yn y tes.
Lloffion ym mhyllau uffern
Yw'r "gwych yfory, gwell''
A Duw yw'r cyw mewn cawell -
Myd.
Diymyryd.
Ymhell.

horizontal rule


 

Hunllefain

(Stori cyn huno)

I'n haelwyd cyn y 'dolig
y ganwyd i ninnau fab, sef Gwern.
A Gwern oedd y cwbwl i gyd!
Roedd pob ennyd yn llawn ohono
a hwythau'r munudau fel llanw'r mor;
ein horiau oedd ei oriau o
a'n dyddiau oedd ei barhad eiddil.
Nid oedd ei fywyd yn fawr mwy
na sugno
a bwyta rysgs oer
a chysgu
a glychu'i glwt.
Un diwrnod fe ddaeth dau fwystfil draw i'n stad -
dau anghenfil hyll.
Yn y gwyll gwallgo gwelais
lygaid y cynta'n fflachio'n fflam.
A heb wahoddiad, camodd y baedd i'r ty
ac at y pram
a sibrydodd, 'Fi yw Saddam Hussein!'
Seiniwyd y cyrn a chwalwyd breuddwydion yn yfflon cyn y nos.
Poerodd ei dan drosom
a gwelsom e'n cofleidio Gwern
a'i ewinedd ffyrnig
a'i gynddaredd uffernol.
Enfawr oedd yr ail anghenfil - y bwystfil Bush!
Milwr wedi moeli ac yn drewi
fel draig neu deigar barus
a'i flys ar hylif-bywyd Gwern -
ein lamp, ein llusern llesg!
A dyma nhw'n dechrau!
Pob un yn hawlio ein planed fechan
yn eiddo iddo'i hun!
Ac ar hyn, dyma'r ddwy ddraig gref
Yn dechrau bonllefu,
chwyrnu,
ac ysgyrnygu nes i Gwern
igian a gwegian fel hen gwch ar for o waed.
'Gwrandwch! Ylwch! Ym...!'
meddwn (gyda synnwyr Solomon!),
rhannwch fy mhlentyn noeth a chyfoethog:
hanner i'r naill a hanner i'r llall.
'Rhowch y darn uchaf i Saddam a'i gamel,' meddwn
a rhowch i'r ail ddraig
y darn isaf o'r un bach - o'i gesail
i lawr i'w goesa
ac mi ga' inna 'chydig o gwsg!
Ond ches i ddim!
Y munud nesa roedd swn eu cweryla'n
llenwi'r byd crwn!
A hwnnw ar drothwy Ionawr
a'i ryferthwy'n anferthol!
Ffrwydrol oedd y ffrae
a'r ffrwst.
Mi welaf fabi'r drws nesa'
(sef Palisteina) yn un stwnsh
oherwydd nid oes i angau, chwaith, mo'i ffiniau ffals.
A mi welaf fy mab yn datgymalu
yn y cymylau
o'm mhlegid i.
Ei ddagrau'n ffrwtian
yn y brwmstan
a'i aelodau brau
yn llenwi'r eiliadau brwnt.
Mi welaf mai hwythau'r munudau
yw traethau ein trai:
ein horiau yn wag o gariad
a'n dyddiau bas
fydd diwedd byd.

horizontal rule

 
 

Deffra Seithenyn!

(Cyflwynaf i Mr Bush a phob Mr Bush arall; Medi 2005)

Seithenyn y meddwyn mawr,
yn ol ei arfer,
a syrthiodd i gysgu ar ol ysmygu mwg.
Chlywaist ti mo'r ewyn gwyn yn Nhywyn
yn ffrwtian swsian fel sarff
neu fel Disbrin mewn gwydyr?
Sh...sh...!
A charafanau'r ymwelwyr yn clecian
yn erbyn ei gilydd fel curo dwylo?
Ogleuaist ti mo'r garffosiaeth
yn woblo ac yn dawnsio ar y don?
Deffra - y Rip van periwincl!
Efallai y pryna i gloc-taid pren i ti ryw ddydd,
un fel sgin Arthur!
Neu gloc cwcw o'r Swistir,
un clir fel cloch,
i durio'r ymennydd efo dau air miniog:
"Cwcw! Cwcw!"

Neu beth am radio i'th ddeffro'r
tro nesaf y daw'r mor drwy'r muriau?
Oes raid i ti riddfan a rhochian cysgu mor uchel?
Deffra'r llymbar!
Oni weli 'r cocratsis o dan yr hatsis
yn gwledda ar yr hil?
Oni weli waliau'r ceginau
yn gacan o sglyfan lle bu unwaith sglein?
Oni weli di'r cypyrddau yn weigion
lle bu digonedd o gaws a Guiness?
Na weli, siwr!
'Wnest ti ddim byd erioed ond smocio
a phwmpio dy gorff hefo jync:
chwistrellu a rhidyllu dy hun
efo nodwyddau budron
yn lle chwech dy swyddfa
ar ol torchi llawes dy siwt!
Chlywaist ti r'un gair yn y Dixie
am Garbon Deuocsid
a bod y Si-Eff-Si eisioes wedi llarpio'r haen Oson?
Deffra'r bardd anonest!
Un diwrnod, Seithenyn, bydd lefel y mor yn codi
at drothwy sybyrbia
gan beri i'r gwylanod uwch y feiston las
fwrw gwyngalch arnom!
Fe ddaw i ddial o'r uchelder yn ei holl ysblander efo ... sblash!
Sbia! Edrycha! Lle bu unwaith dref ar y mynydd draw
dacw sosej-ci-poeth o draeth
a rhesi o beiriannau fideo'n ymryson a'i gilydd
lle bu defaid dy daid
a dacw haid o gychod hwyliau
lle bu'r ieir yn dodwy!
Clyw!
Oni weli yma ryw Arch Noa Newydd yn...
O! Ta waeth!, mae'n rhy hwyr!
Y byddar a gaiff eu boddi:
ti a ni a nhw.
Oherwydd ti, Seithenyn,
yw pob un ohonom ni.

horizontal rule

 
 

Rhyfeddod!

Ym mhenodau munudyn - hen yr haul,
Yng nghyfrolau'r hedyn,
Yn y dirfawr diderfyn
Nid oes doniolach na dyn!

 

horizontal rule

 

George Thomas

(Englyn a sgwenwyd ar ddiwrnod ei farwolaeth)

Wedi awr o tandwri - a Guiness -
Llond lagwn... neu weilgi:
Lledaf, rhwygaf tan regi,
Ac uwch ei fedd cachaf i.

horizontal rule

 

I'r Cyhoeddwr Hwnw

(Am alw ar feirdd i beidio a chyfranu eu cerddi i'r safwe  plant  rhad-ac-ddim www.bydybeirdd.com
- gan fod "cannoedd o bunnoedd yn y fantol" - Golwg)

Codi'r llen - a'i weld enyd - yn dinoeth
Yn Fac Donalds hefyd;
O sbio yn nhrons bywyd
Gwelais Gymru'n gachu i gyd.

 

 

horizontal rule

 

 

Defnyddio'r gwaith:     Gallwch ddefnyddio'r cerddi i'w hadrodd neu eu canu fel cystadleuaeth eisteddfod, ar radio neu deledu heb ganiatad yr awdur.
Dylid, nodi ffynhonell y cerddi, ond nid y caneuon, fel www.barddoniaeth.com.
Hawlfraint y cerddi a'r safle: (oni nodir yn wahanol): Cyfrifiaduron Sycharth, Mehefin, 1996 - 2008. Cedwir pob hawl.
Caniateir islwytho'r testun i un cyfrifiadur yn unig. Caniateir gwneud un copi caled ar gyfer eich defnydd chi yn unig. Ni chaniateir gwerthu na ffeirio na benthyg unrhyw ran o'r testun na'i drosglwyddo mewn unrhyw fodd i unrhyw berson neu bersonau arall heb ganiatad ysgrifenedig y cyhoeddwr yn gyntaf. Erlynir y diawled diegwyddor sy'n torri'r amodau hyn mewn llys barn.